Yr Eglwys

Y chweched ganrif oedd Oes y Seintiau yng Nghymru a dengys hen lawysgrif i draddodiad Cristnogol ein bro darddu o'r oes honno pan y bu cell fynachlog gan Sant Tannwg a Sant Eithrias lle mae'r eglwys heddiw. Cysegrwyd yr Eglwys yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg i Sant Pedr mewn Cadwynau,yr un enw 'r eglwys yn Nhwr Llundain.

Credir bod y cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu'r eglwys wedi dod o'r Gaer Rhufeinig yng Nghefn Caer - ni ellir eu gweld heddiw am iddynt gael eu gorchuddio pan atgyweiriwyd yr eglwys yn 1873.

Yn 1900 prynwyd Tan y bryn i'w ddefnyddio fel rheithordy ym mhlwyf Pennal. Yn 1915 talwyd 45 am fathrwm i'r rheithordy.Y Parch Geraint ap Iorwerth yw'r ficer heddiw.

Mae ffenestri lliw hardd yn yr eglwys gyda'r rhan fwyaf ohonynt er cof am aelodau o'r eglwys.Mae ffenestr fawr liw tu l i'r allor ac mae 'r Parch Geraint ap Iorwerth wedi dangos llun pry yn y ffenest i ni blant yr ysgol.Gwelir llawer cofeb ar waliau'r eglwys, y mwyafrif yn cofio am aelodau o deulu'r Thrustons o Blas Talgarth ac yn ddiweddarach o Pennal Towers.

Dywedir bod Lleucu Llwyd wedi ei chladdu dan yr allor yn yr eglwys.Mae Mr. Doug Nichols wedi tynnu llun o Lleucu Llwyd ac mae i'w weld ar wal yr eglwys.

 

 

 

 

Tu allan yr eglwys mae Gardd Goffa a enillodd wobr Cymru Wledig yn 1992.

Fe gafodd y corffborth ei atgyweirio er cof am Mr. Alan Martin, ffotograffydd o Benegoes a farw yn 1994

.

 

Ers talwm pan oedd rhywun yn cael ei gladdu roedd yn rhaid i'r galarwyr aros am y ficer cyn mynd 'r coffin ar yr elor i mewn i'r eglwys. Roedd meinciau tu mewn i'r corff borth er mwyn iddynt roi y coffin ar un o'r meinciau a'r bobol oedd yn cario'r coffin eistedd ar yr un arall. Dim ond un corff borth sydd ym Mhennal a does yna ddim meinciau tu mewn iddi rwan. yn Eglwys Tal y Llyn mae dau gorff borth achos bod y llyn yn gorlifo ac yna mae yna un corff borth i drigolion Corris ac un arall i drigolion Abergynolwyn.

 


Yn l i dudalen Pennal