Y Ferch o Gefn Caer


Un tro roedd merch hardd iawn yn byw yng Nghefn Caer ac roedd yn caru gwr ifanc o'r ardal ond doedd ei thad ddim yn ei hoffi o gwbwl ac ni roddai ganiatad i'r ddau briodi. Penderfynnodd y tad roi tasg i'r gwr ac os y cyflawna hi cai'r ddau briodi.Y dasg oedd i'r gwr fynd i ben Mynydd Esgairweddan yn noeth limyn ac aros yno drwy'r nos. Roedd y gwr yn gyfrwys ac aeth throsol a gordd gyda fo i ben y mynydd a bu wrthi drwy'r nos yn malu cerrig er mwyn cadw'n gynnes.Rhoddodd y ferch gannwyll yn ffenest ei llofft er mwyn i'w chariad weld y golau bob tro y byddai'n digaloni.Trwy ryw wyrth daeth i lawr o ben y mynydd yn fyw a phriododd y ddau.

Un dydd Sul gofynnodd rhieni'r ferch iddi goginio'r wydd erbyn cinio tra'r oedden nhw yn y capel. Rhoddodd y ferch gannwyll yng nghornel yr ystafell a'r wydd yn y gornel gyferbyn. Daeth ei rhieni adref o'r capel a doedd yr wydd ddim wedi ei choginio.Dywedodd y ferch bod y gannwyll mor bell o'r wydd ag yr oedd y gannwyll yn y ffenest oddi wrth ei chariad pan oedd yn malu cerrig ar y mynydd i gadw'n gynnes."Rydych chi'n gwybod rwan sut oedd o yn teimlo."

Y Rhufeiniaid

Daeth y Rhufeiniaid i'r ynysoedd hyn gyntaf yn O.C.43 dan yr Ymerawdwr Claudius, a'u goresgyn hyd Fur Hadrian erbyn O.C.74-8.Yng Nghymru hyd canol y bedwredd ganrif roedd pedair caer sef Segontium (Carnarfon), Deva (Caer), Isca (Caerllion) a Maridinum (Caerfyrddin), ac yna rhai llai ar y llwybrau rhyngddynt.

Roedd caer Pennal,lle mae'r ffermdy Cefn Caer heddiw ar y ffordd a elwir Sarn Helen ac yn agos i fan croesi'r afon Ddyfi. Cafwyd hyd i arian a chadwynau aur ac arian dros y canrifoedd, ac yn 1975 cafwyd dwy 'vase' a darnau clai Samian. Mae'r ddwy 'vase' heddiw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ond nid ydynt yn cael eu harddangos. Os ydych am eu gweld holwch ac efallai y cewch fynd lawr i grombil yr amgueddfa gyda'r drysau yn cael eu cloi tu l i chi a chewch eu gweld. 'Vases' bychain glas ydynt.

Cyn hynny darganfyddwyd olion o 'hypocaust', a credwyd iddynt gynhyrchu briciau yma. Roedd yn safle bwysig ac mae'n debyg mai o'r cyfnod yma y tardd enw Pennal neu Penial sef prif dref neu gaer.

Daeth y Rhufeiniaid i Bennal ar hyd yr afon ddyfi yn cario yd, arfau, defnyddiau adeiladu, nwyddau i'r ty a llawer o fn bethau. Mae tystiolaeth gref bod y Rhufeiniaid wedi gweithio yn y pyllau plwm yn Mynydd Bryn Dinas a Thyddyn Briddell.Mae ffordd o'r ffordd bresennol wrth Westy Trefeddian, dros y mynydd tu cefn i Aberdyfi, yn cyrraedd Pennal heibio i Lyn Barfog a Chwm Ffernol.Gelwid y ffordd hon yn "Ffordd Top". Roedd y llongau Rhufeinig yn mynd chroen, ffwr, coed ac yn bosibl plwm a chopr.


Yn l i dudalen Pennal