Brwydr Rhyfel y Rhosynnau
Gelwir y ffordd rhwng Pennal a Chwrt yn Wtra'r beddau. Dywedir ei bod wedi ei phalmantu â beddau'r milwyr. Bu yma rywbryd rhwng 1461 a 1485 frwydr oedd yn rhan o Ryfel y Rhosynnau. Cefnogai rhai Cymru y Dug Richard o Efrog ac eraill Harri Tudur, yr un a gefnogwyd gan blaid Lancaster.
Ar y maes hwn
cyfarfu llu Thomas ab Nicholas o blaid Lancaster â Harri ab
Gwilyma'i fintai o blaid Efrog. Thomas a'i filwyr a orfu, gan
orchfygu llu arall dan Dafydd Goch yno wedyn.. Yr un fu canlyniad
y rhyfel a choronwyd Harri yn 1485. Dywed traddodiad i Harri ab
Gwilym gael ei gladdu ger mynedfa Esgairweddan, ac ar y cae
gerllaw gwelir tomen a godwyd dros rai o'r meirw.