Croeso i dudalen Ysgol Gynradd Pennal ar y we
Ceir yma wybodaeth am yr Ysgol, yr ardal, Llyn Barfog, Rhyfel y Rhosynnau, Owain Glyndwr, Carn March Arthur a mwy!
Pentref Pennal
Pentref bychan mewn dyffryn brydferth ar y ffordd o Fachynlleth i Aberdyfi ydy Pennal. Yn wir, Pennal yw'r pentref mwyaf deheuol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae afon fechan o'r enw Afon Sychan, yn rhedeg drwy'r pentref ar ei ffordd i lifo i'r Afon Ddyfi yn Llyn Bwtri.
Rydym yn lwcus iawn bod ysgol, dwy siop, gwesty a swyddfa bost yn y pentref. Mae'r meddyg yn cynnal meddygfa yn Neuadd yr Eglwys bob pythefnos. Does dim llawer o bentrefi bychain yn medru dweud hyn. Enwau'r siopau yw Glansychan Stores a Siop y Bont. Riverside yw enw'r gwesty am ei fod ar lan yr afon.
Dyma lun o'r Riverside
Pennal o'r awyr:
Mae dau gapel, Annibynwyr a Methodistiaid ac eglwys yn y pentref. Capel Carmel yw enw'r Capel Annibynwyr ac enw'r eglwys yw Sant Pedr ad Vincula.
Mae datblygiadau mwy diweddar wedi ymestyn y pentref i'r gogledd yn Felindre ac i'r dwyrain ym Maes Teg. Gwelir Plas Talgarth, oedd yn berchen gan y Teulu Thruston, heddiw yn ganolfan wyliau "rhannu amser".
Cliciwch isod am ragor o wybodaeth:
Cysylltwch â'r Ysgol: pennal@gwynedd.u-net.com
©Hawlfraint Ysgol Pennal