Owain Glyndwr


Ar Fawrth 6ed, 1406 daeth Owain Glyndwr, ei osgordd, mynaich ac esgobion Cymru oll i Bennal i senedd bwysig. Wedi tair wythnos, ar Fawrth 31ain, anfonwyd llythyr at Siarl VI, brenin Ffrainc. Ynddo amlinellwyd polisiau Owain mor glir nes yr adweinir yn Bolisi Pennal, sef sfydlu Prifysgol Gymreig, creu Eglwys annibynnol o Loegr a llunio'r Cytundeb Tridarn rhwng Cymru a dau arglwydd Seisnig pwerus yn erbyn y Goron.Ond erbyn 1408 roedd seren Owain yn edwino, a diflannodd yn llwyr erbyn 1412.Mae rhai pobl yn y pentref yn ceisio dweud bod Owain wedi ei gladdu yma ym Mhennal.

Yn yr eglwys gwelir llun a gafodd ei baentio gan Aneurin Jones,Aberteifi -llun sy'n ddathliad ac yn ddehongliad o'r hyn yw bod yn genedl i bobl Cymru.Mae'r bobl sy'n llenwi'r llun yn cynrychioli'r "cwmwl tystion" - sef gorffennol ein cenedl.Y mae'r lliwiau brown a llwyd a ddefnyddir i ddarlunio cymeriadau yn symbolaidd o dlodi ac mae eu cefngrymedd yn symbol o frwydr galed gwerin bobl y genedl.

Bu plant yr ysgol yn cwrdd Aneurin Jones yn Ysgol Corris i weld sut oedd artist yn dechrau ar lun mor anferth. Gwelwyd ei fod werdi defnyddio pensilau o bob math, beiro las ac un goch i wneud pentwr o frasluniau. Gorfod iddo hefyd chwilota mewn llyfrau i wneud yn siwr bod pob dilledyn a wisgai'r dynion yn gywir.


Yn Ôl i dudalen Pennal