Llyn Barfog


Un tro roedd ffermwr tlawd o'r enw Gwilym Owen yn byw mewn fferm heb fod ymhell o Lyn Barfog.Roedd yn hoff iawn o fynd am dro i fyny at y llyn ac un noson gwelodd wartheg gwynion yn pori o gwmpas y llyn a phenderfynnodd bod yn rhaid iddo gael un ohonynt. Methai a chredu ei lygaid ond roedd y Gwragedd Annwn yn cadw llygaid ar y gwartheg felly roedd yn mynd i fod yn anodd iawn dal un.Bu yn amyneddgar ofnadwy yn cuddio yn y rhedyn bob min nos gyda rhaff yn ei law yn barod i ddal buwch.

Daeth ei gyfle un noson pan grwydrodd un o'r gwartheg yn bellach nag arfer. Daliodd hi ac aeth hi adref. Wedi ychydig flynyddoedd roedd pawb wedi clywed am y ffermwr a'r fuwch wen-ef oedd 'r llaeth gorau yng Nghymru, y menyn gorau, y caws gorau a'r lloi gorau.Daeth yn ffermwr cefnog iawn.

Roedd Gwilym Owen yn credu bod y fuwch yn mynd yn hen ac anfonodd am y cigydd i ddod i ladd y fuwch. Daeth y cigydd i'r fferm a chododd ei law yn barod i drawanu'r fuwch pan glywyd llais yn atsain trwy y nen.Methodd y cigydd a Gwilym Owen a symud, roeddent wedi troi yn ddelwau. Cerddodd y fuwch yn l tuag at y llyngyda'i lloi i gyd yn ei dilyn. Roedd gyrr fawr yn ei dilyn.

Pan fedrodd y ddau ddelw symud rhedasant at y llyn a chyrraedd yno mewn pryd i weld y llo olaf yn mynd yn l i'r llyn. O hynny ymlaen newidiodd lwc y ffermwr ac aeth yn ffermwr tlawd unwaith eto.


Yn l i dudalen Pennal