Diwydiant ers talwm


Daw tarddiad y Chwyldro Ddiwydiannol yn y ddeunawfed ganrif ond yng nghanol y ganrif ganlynol y daeth prysurwch diwydiannau newydd i'r ardal hon. Credwyd bod y Rhufeiniaid yn defnyddio Llyn Bwtri ar yr Afon Ddyfi i allforio nwyddau megis briciau. Oddi yno, wedi adeiladu 'wharf' yn 1895, yr allforiwyd cynnyrch y diwydiant newydd, sef llechi. Roedd chwareli eithaf llwyddiannus gan deulu Thrustons, Talgarth yng Nghwmbreichiau,Gyllellog a Chwm Alice.Doedd symud y llechi ddim yn mynd i fod yn broblem achos y teulu Thruston oedd pia'r tir i gyd rhwng y chwareli a'r Afon Ddyfi. Felly,doedd ddim yn rhaid iddynt gael caniatad neb na phrynu tir i adeiladu ffordd dram.Ai rhai chwarelwyr drosodd i chwarel Bryneglwys.Agorwyd rheilffordd dram i lawr i Lyn Bwtri ac yn is i lawr yr afon.

Mae hanes hefyd am odynnau calch ar fferm yr Ynys a'r Domen Ddreiniog ar ffordd Llyn Bwtri.Naddwyd yr odyn sydd yn yr Ynys allan o graig gan adael sip cylch ar y top yn mesur ryw 7 troedfedd ar draws, ac yn ryw 10 troedfedd o ddyfnder, gan gulhau cryn dipyn tuag at y gwaelod. Mae rhwystr wedi ei roi ar y top er mwyn diogelwch. Mae'r odyn ar foncyn ac o'r fan yma 'roedd y derrig calch (calchfaen)yn cael ei harllwys i mewn. Yng ngwaelod yr odyn mae twll er mwyn cynnau'r tn i losgi'r calch yn llwch (calchbrwd)

.

Ar l y broses yma cribinwyd y calch allan o waelod yr odyn ac yna byddai'r ffermwyr cyfagos yn llwytho eu ceirt a'i gludo'n l i'r fferm. Gosodent ef yn bentyrau taclus ar y caeau a'i adael yno am beth amser cyn ei ddefnyddio fel cwrtaith ar y tir.

Roedd y calchfaen yn cael ei fewnforio ac yn naturiol felly codwyd yr odynau ar yr arfordir neu yng ngheg afonydd. Ni fu defnydd o'r odynau calch ers yn agos i 135 o flynyddoedd.

Roedd chwarel cerrig gwynion ger Penrhynbach a ffatri wln yng Nghwmdwr. Aethpwyd 'r gwlan wedyn i bandy Rhosfarch i'w olchi.


Yn l i dudalen Pennal